Mae yn nifer o ddosbarthidau gwahanol yn Ysgol Cenarth, gallwch ddechrau gyda 'Cylch Meithrin Nawmor' lle i blant 2/3 blwydd oed cael dechrau cael blas arni. Mae'r meithrinfa yn cael ei redeg ar wahan i'r ysgol on ar safle'r ysgol

Wedyn mae'r grŵp Meithrin yn yr Ysgol yn Y Gorlan.

 

Mae enwau'r dosbarthiadau eraill yn dilyn llwybr yr afon wrth iddi lifo drwy pentref Cenarth: Y Ffrydiau, Y Bont, Y Ffynnon, Y Berllan:

Y Ffrydiau, yn gyntaf mae'r afon yn cyrraedd y Ffrydiau gan byrlymu ac egnïo wrth adlamu dros y creigiau serth. Gobethio bydd y disgyblion yn teimlo cystal cyffro a bwrlwm wrth iddynt gwrdd â phrofiadau a ffrindiau bach newydd yn Ysgol Cenarth.

 

Cenarth-falls1R.jpg

 

 

Cyrraedd y Bont:

 

 

pont_cenarth.jpg

 

 

 

Y Bont: wedi gwau'i ffordd trwy'r ffrydiau mae'r afon Teifi'n rhedeg o dan bont Cenarth. Mae'r bont yn symbolaidd iawn yn cysytllu'r Sir Gâr a Cheredigion ar lannau'r Teifi.

Mewn ffordd debyg iawn mae Dosbarth y Bont yn cysylltu'r meithrin gyda'r cyfnod sylfaen.

Yn ôl chwedlau'r Mabinogi: 'A fo ben, bid bont', mae'r dosbarth hwn yn 'pontio' rhwng dau gyfnod pwysig y disgyblion. Blwyddyn 1 a blwyddyn 2

a_fo_ben_byd_bont.jpg

 

Cyrraedd Ffynnon Llawddog:

 

ffynnonllawddog.jpg

 

Y Ffynnon: wedi llifo o dan y bont mae'r afon Teifi yn mynd heibio i Ffynnon Llawddog.  Ffynnon sydd wedi bod yn cyflenwi dŵr yfed glân a torri syched brodorion Cenarth, ers cyn cof.  Gobeithio bydd cyfnod y disgyblion yn nosbarth y Ffynnon yn un chwilfrydyig ac yn diwallu chwant y disgyblion am wybodaeth newydd.

 

Bwrw ffrwyth yn y Berllan

Y Berllan: Blynyddoedd yn ôl roedd yna Berllan afalau ar bwys lle mae'r ysgol yn sefyll nawr. Ar ôl nifer o flynyddoedd yn Ysgol Cenarth gobeithio bydd gwaith caled y disgyblion a'r athrawon yn bwrw ffrwyth yn y dosbarth hwn wrth gael disgyblion hapus, chwilfrydig, dwyieithog sy'n medru gweithio'n annibynnol.

 

Coeden_afalau.jpg