logor_ysgol.png

 

Ysgol Gynradd Cenarth

Prosbectws 2022 - 23 

 

CROESO I YSGOL CENARTH

 

           Annwyl Rieni/Warcheidwaid,

 

Rydym yn croesawu chi a’ch plentyn i Ysgol Cenarth. Tra bydd eich plentyn dan ein gofal fe wnawn ein gorau i sicrhau y bydd yn hapus, yn ddiogel ac yn cael yr addysg o’r safon uchaf.

 

Mae'r ysgol hon yn gymuned hapus a chartrefol lle’r ymdrechir i hyrwyddo twf ysbrydol a moesol y plant. Y mae cyswllt agos gyda phob teulu a gweithredir polisi o ymateb i broblemau neu anawsterau drwy eu trafod gyda'r rhieni/gwarcheidwaid.

 

Hoffwn weld bob plentyn yn edrych yn ôl ar ei blentyndod fel cyfnod hapus sydd wedi bod y sylfaen gadarn i’w fywyd wrth iddo ef/hi ddatblygu’n ddinesydd y dyfodol.

 

Partneriaeth yw addysg rhwng yr ysgol a'r rhieini er budd ein plant. Mae ein dylanwad a’r gefnogaeth yn amhrisiadwy yn natblygiad cymdeithasol ac addysgol eich plentyn. Hoffwn weld y bartneriaeth yma gweithio’n dda a bod anghenion y disgybl yn flaenoriaeth gennym ac yn codi uwchlaw popeth arall.

 

“Dechrau da………..Dyfodol Disglair”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Aelodau`r o`r Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cenarth

ENW

Statws:

Cyng C. James (Cadeirydd)

Awdurdod Lleol

Mrs B Thomas

Awdurdod Lleol

Mrs H Howells

Athrawes a Gofal

Mrs H Davies

Cymunedol

Mrs J Heinrich-Davis (Is-Gadeirydd)

Rhiant

Mrs J Stanford

Rhiant

Mrs M Jones

Rhiant

Mrs S Davies

Cymunedol

Cllr L Lloyd MBE

Cymunedol

Miss M Lewis

Pennaeth

 

Staff yr Ysgol

M. Lewis

Pennaeth

H. Howells

Athrawes a gofal

R. Williams

Athrawes

Ff. Harris

Athrawes

L. Waters

Athrawes

L. Carruthers

Athrawes

H. Thomas

Cymhorthydd

S. Elliott

Cymhorthydd

J. Driscoll

Cymhorthydd

J. Nelson

Cymhorthydd

E. Lewis

Cogyddes

V. Griffiths

Clanhauwraig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

GWELEDIGAETH YR YSGOL

 

  • Ysgol feithringar, hapus a chroesawgar.
  • Amgylchedd ddiogel, cefnogol a chynhwysol lle dethlir amrywiaeth ddiwylliannol a gwerthfawrogir gwahaniaeth.
  • Awyrgylch ac ethos deuluol, cadarnhaol, parchus, caredig, brwdfrydig, positif, cyfeillgar gyda disgwyliadau uchel yn rhan allweddol.
  • Ymdeimlad cryf o gymuned a phartneriaiethau.
  • Hybu Cymreictod a balchder at Gymru a thu hwnt yn rhan annatod o’m bywyd a gwaith.
  • Ysgol sy’n dathlu cyflawniadau ac yn ysgogi cariad at ddysgu ymhob aelod o o’r teulu gyda dysgwyr sy’n ganolog, yn cael profiadau a phlentyndod hapus gyda chyfleoedd i flodeuo a chyflawni hyd eithaf eu gallu a’u potensial.
  • Rhoddir pwysigrwydd i addysgu a dysgu rhagorol drwy rhaglenni dysgu eang, cyfoethog, cyffrous ac i ddatblygu annibynniaeth, doniau ac hyder. 
  • Disgwylir gweld y safonau ymddygiad uchaf gyda pharch at eu hunain, at eraill ac at bethau.

 

Ein nod yw sicrhau fod gan yr holl blant yr adnoddau i lwyddo yn y byd; anelwn am safonau uchel o ddwyieithrwydd; rhifedd, llythrennedd a thechnoleg fel eu bod yn ddinasyddion cyflawn o`r byd.

Ein gweledigaeth yn Ysgol Gynradd Cenarth yw bod pob disgybl yn derbyn addysg lawn ac eang o’r radd flaenaf; yn datblygu hyd eithaf ei gallu ac yn mwynhau dod i’r ysgol. Rydym yn awyddus i greu a chynnal amgylchedd a fydd yn hyrwyddo hapusrwydd y disgyblion, yn ogystal â'u datblygiad cyflawn fel unigolyn sy'n seiliedig ar gyd-berthynas o barch a gofal am ei gilydd a'u hamgylchedd.

 

Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a’i barchu a rhoddwn fri a phwyslais arbennig ar ddathlu llwyddiannau. Ceisiwn wireddu hyn trwy ddarparu Cwricwlwm amrywiol, cytbwys a chyfoethogi; rhoi profiadau dysgu diddorol bythgofiadwy ac adnoddau cyfredol a chwaethus er mwyn ysgogi chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn. Yn ei dro, bydd hyn yn paratoi‘r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion lleol a byd eang.

 

Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, eu Cymreictod yn ogystal â’u teyrngarwch at y gymuned leol a’i hetifeddiaeth, tra ar yr un pryd, yn datblygu parch at gred a diwylliannau eraill. Ceisiwn meithrin ymdeimlad o berthyn sy`n cymell pob plentyn i gymryd rhan mewn amgylchedd dysgu sy`n seiliedig ar y pedwar diben, ac i gyfrannu at yr amgylchedd dysgu hwnnw. Mae`r arferion dysgu, addysgu ac asesu yn hyblyg ac amrywiol er mwyn ymateb i anghenion, diwylliannau a diddordebau yr holl ddisgyblion.

 

Rydyn ni’n awyddus i blant Ysgol Gynradd Cenarth adael yr ysgol yn ddisgyblion hyderus, sy’n mwynhau dysgu. Dymunwn ennyn dysgwyr sy’n barod i wynebu heriau, i allu dysgu’n annibynnol, yn ogystal â gallu cydweithio’n effeithiol a chymhwyso ystod o sgiliau at wahanol sefyllfaoedd.

 

Mae Llais y Plentyn yn bwysig iawn yn Ysgol Gynradd Cenarth. Credwn gall cyfranogiad disgybl at y dysgu a’u cynnwys mewn penderfyniadau greu amgylchedd grymuso sy’n cynyddu dyheadau, yn ogystal â datblygu agweddau positif mewn pobl ifanc tuag at ymwneud yn fyw â’u cymuned.

 

Pwysleisiwn, fel staff a Llywodraethwyr, y bartneriaeth rhwng yr ysgol a’r cartref er lles pob un o’n plant. Ein gobaith yw y bydd pawb yn cydweithio â’r ysgol er mwyn sicrhau bod yr amser mae eich plant yn ei dreulio yn yr ysgol yn gyfnod llwyddiannus yn eu bywydau a bydd yn datblygu’n addysgol a chymdeithasol.

 

Gyda chydweithrediad pawb, gallwn fagu’r hyder yn y plant i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes.

 

Gobeithiwn y bydd y llyfryn yma yn eich helpu i baratoi eich plentyn ar gyfer ei amser yn yr ysgol.

 

DATGANIAD CENHADAETH

 

Nod yr ysgol yw creu cymuned ddysgu hapus, uchelgeisiol a chynhwysol a fydd yn rhan greiddiol o’r ardal o’i chwmpas.

 

Ein cenhadaeth ar gyfer Ysgol Cenarth yw datblygu ein plant:

 

• anelu at y cyflawniad uchaf;

• bod yn ddysgwyr gydol oes annibynnol;

• bod yn ymwybodol ac yn falch o'u hunaniaeth Gymreig a'u cymuned.

 

Ein bwriad yw rhoi dechrau hapus i'ch plentyn ar ei addysg statudol. 

 

Gobeithio y bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i baratoi'ch plentyn ar gyfer ei flwyddyn gyntaf gyda ni.

 

NODAU AC AMCANION YR YSGOL

 

Bydd yr ysgol yn ymdrechu i wireddu`r weledigaeth ac i ddatblygu cwricwlwm sy’n:

  • datblygu a chyfrannu at allu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben ac i feithrin y sgiliau cyfannol sy'n sail i’r dibenion
  • helpu i ddatblygu ymdeimlad eu dysgwyr o hunaniaeth yng Nghymru
  • eang ac yn gytbwys
  • briodol ar gyfer eu dysgwyr, o ran eu hoedran, eu galluoedd a'u doniau
  • galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol ar hyd y continwwm dysgu
  • ymgorffori cyfleoedd i gymhwyso sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol
  • ymgorffori asesu er mwyn i ddysgwyr wneud cynnydd
  • gwrando ar lais y dysgwr ac yn ymateb i anghenion, profiadau a mewnbwn dysgwyr
  • bodloni gofynion cwricwlwm.

Mae sgiliau cyfannol yn sail i’r pedwar diben a dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu:

  • Creadigrwydd ac arloesi - Dylid rhoi lle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig ac yn ymholgar, ac i greu llawer o syniadau. Dylen nhw gael eu cefnogi i gysylltu gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau, a gweld, archwilio a chyfiawnhau datrysiadau amgen.
  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau - Dylai dysgwyr gael eu cefnogi i ofyn cwestiynau ystyrlon, ac i werthuso gwybodaeth, tystiolaeth a sefyllfaoedd. Dylen nhw allu dadansoddi a chyfiawnhau datrysiadau posibl, gan adnabod materion a phroblemau posibl. Dylai dysgwyr ddod yn wrthrychol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau, gan adnabod a datblygu dadleuon.
  • Effeithiolrwydd personol - Dylai dysgwyr feithrin deallusrwydd ac ymwybyddiaeth emosiynol, gan ddod yn hyderus ac yn annibynnol. Dylen nhw gael cyfleoedd i arwain dadleuon a thrafodaethau, gan ddod yn ymwybodol o oblygiadau cymdeithasol, diwylliannol, egwyddorol a chyfreithiol eu dadleuon. Dylen nhw allu gwerthuso eu dysgu a'u camgymeriadau, gan adnabod meysydd i'w datblygu. Dylen nhw ddod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy
  • Cynllunio a threfnu - dylai dysgwyr allu gosod nodau, gwneud penderfyniadau a monitro canlyniadau interim. Dylen nhw allu myfyrio ac addasu, yn ogystal â rheoli amser, pobl ac adnoddau.

 

Rhaid rhoi cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i ddysgwyr:

  • ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
  • gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • bod yn hyderus wrth ddefnyddio ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd.

 

Datganiad gan y Plant 

Ein bwriad yn Ysgol Gynradd Cenarth yw creu ysgol hapus, lle mae pawb yn gwneud eu gorau bob amser; yn cael pleser o ddysgu ac yn gofalu am ei gilydd.


EIN GWERTHOEDD

Trwy ddysgu ein plant i ddilyn ein gwerthoedd craidd, rydym yn sicrhau hapusrwydd, llwyddiant, a dyfodol disglair i'n holl ddisgyblion. Mae ein gwerthoedd craidd fel a ganlyn: 

Gofal 

Rydyn ni'n dangos gofal i ni'n hunain, i'n gilydd ac ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud. Rydym yn gweld gofal yn cynnwys: 

  • Parch at bawb (e.e. ar gyfer y gymuned, yr amgylchedd, amrywiaeth) 
  • Caredigrwydd 
  • Dathlu eraill 

Hyder 

Rydym yn credu yn ein hunain ac yn gweithio tuag at ein nodau ein hunain. Rydym yn gweld hyder fel un sy'n cynnwys: 

  • Annibyniaeth (ymddiried ynoch chi'ch hun, rhoi cynnig ar bethau) 
  • Unigoliaeth (bod yn ni ein hunain, dathlu unigrywiaeth) 
  • Dewrder 

Creadigrwydd 

Rydym yn defnyddio agwedd ddychmygus a dyfeisgar tuag at ein bywydau. Rydym yn gweld creadigrwydd fel rhywbeth sy'n cynnwys: 

  • Arloesi 
  • Dyfeisgarwch 
  • Dychymyg 
  • Datrys Problemau 

Her 

Rydym bob amser yn gweithio ein anoddaf ac yn anelu at gyflawni. Rydym o'r farn bod her yn cynnwys: 

  • Rhagoriaeth (cyflawni'r gorau y gall rhywun bod) 
  • Gwaith caled (rhoi amser ac ymdrech yn y gwaith) 
  • Wedi'i bersonoli (cyflawniad wedi'i fesur yn ôl nodau unigol disgybl) 

Cymeriad 

Rydym yn gwerthfawrogi cryfder cymeriad ac yn ceisio bod y gorau y gallwn. Rydym yn gweld cymeriad yn cynnwys: 

  • Dyfalbarhad 
  • Cyfrifoldeb 
  • Gonestrwydd (bod yn ddibynadwy a dangos uniondeb) 
  • Amynedd

 

Cwricwlwm yr Ysgol

 

Cyflwynir cwricwlwm cytbwys ac eang sy`n ymwneud â datblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol, cymdeithasol, corfforol ac emosiynol y plentyn. 

 

Ein cwricwlwm cynhwysol

 

Bydd ein cwricwlwm yn codi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael cymorth i wireddu uchelgeisiau a dyheadau’r pedwar diben, ac i symud ymlaen. Yr ydym wedi ystryried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn diwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr. 

 

 

 

DISGRIFIAD O`R YSGOL

 

Lleolir ein hysgol ym mhentref gwledig Cenarth, sydd rhwng Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn ac yng Ngheredigion.

Gwasanaetha`r Ysgol blant y pentref a`r ardal gyfagos. Derbynia`r Ysgol ddisgyblion yn rhan amser i`r Meithrin yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen blwydd ac yn llawn amser i`r dosbarth derbyn yn dilyn eu pen blwydd yn bedair oed. 

Dynodir yr Ysgol yn ‘ysgol Gymraeg’ yn ôl polisi iaith yr awdurdod Addysg; golyga hyn mai`r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr Ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosgwlyddo i`r ysgolion Uwchradd cyfagos.

 

Dosbarthiadau:

 

Dosbarth y Ffrydiau / Meithrin: Mrs H Howells, Miss L. Carruthers

Dosbarth y Gorlan/ Derbyn: Miss L. Waters

Dosbarth y Bont / Blwyddyn 1: Miss Ff Harris

Dosbarth y Ffynnon / Blwyddyn 3 a 4: Miss R. Williams

Dosbarth y Berllan / Blwyddyn 5 a 6: Mrs E. Hughes

 

 

           Presenoldeb ac Absenoldeb

Mae gan yr ysgol ddyletswydd i sicrhau bod disgyblion yn mynychu’n rheolaidd. Yn unol â rheolau’r Cynulliad, mae’n rhaid i bob ysgol wahaniaethu rhwng absenoldeb awdurdodedig (salwch, ymweld â’r doctor a.y.y.b.) ac absenoldebau heb awdurdod. Gofynnwn i chwi adael i’r ysgol wybod am bob absenoldeb drwy nodyn, alwad ffôn neu e-bost. Er diogelwch, bydd yr ysgol yn ffonio’r cartref ar ddiwrnod cyntaf ab- senoldeb os na dderbynnir neges.

 

Absenoldebau awdurdodedig

Mae hyn yn cynnwys salwch neu apwyntiad meddygol. Rydym yn annog rhieni’n gryf i beidio â thynnu eu plant allan yn ystod y flwyddyn ysgol gan fod parhad yn bwysig i sicrhau dysgu effeithiol.

 

Anawdurdodedig

Cofnodir unrhyw absenoldebau heb eu hesbonio fel rhai anawdurdodedig. Mae cofnodion am bresenoldeb yn cael ei gadw a’i fonitro gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

 

Mae gan y Swyddog Llês Addysg yr awdurdod hawl i ymweld â chartrefi unrhyw rieni yr ystyrir bod ffigyrau presenoldeb eu plentyn yn bryder i’r Ysgol a’r AALl.

 

Oriau Dysgu (heb gynnwys, cofrestru gwasanaeth ac egwyl)

Mae’r oriau dysgu yn 23.5 awr yr wythnos i’r plant yn y CA2, 21.5 awr yr wythnos i’r plant yn y CS a 10 awr i’r plant Meithrin.

Mae sesiynau y bore rhwng 9:00yb — 12.00yp

                                          Meithrin     9:00yb — 12.00yb 

Sesiwn y prynhawn rhwng:  1:00yp –   3.30yp

 

Dymunwn eich atgoffa na ddylai plant gyrraedd yr ysgol cyn 8.00yb i’r clwb brecwast.

Dylai’r plant sydd ddim yn mynychu`r Clwb Brecwast gyrraedd yr ysgol yn brydlon am 8.50yb. 

Nid oes hawl gan blentyn i adael tir yr ysgol heb ganiatâd a heb oedolyn i'w gyrchu. Bydd yr ysgol yn parhau i fod yn gyfrifol am bob plentyn hyd at 3.40 yp sef 10 munud wedi’r ysgol gau.

 

Cau Mewn Argyfwng

Pan fydd argyfwng (ee dim gwres, dŵr neu y tywydd yn wael iawn) byddwn yn gorfod cau yr ysgol ar fyr rybudd pan deimlwn fod diogelwch y plant mewn perygl pe cedwir yn yr ysgol hyd ddiwedd y prynhawn, yna gallwn wneud y canlynol:-

 

Plant y Bws - Gofynnwn i'r bws i ddod yn gynt a chysylltu gyda rhieni. Os na fydd neb adref byddwn yn cadw’r plentyn yn yr ysgol i chi drefnu i’w godi.

 

Pawb Arall - Byddwn yn anfon neges i bob rhiant i drefnu i gasglu’r plant.

 

 

Cinio Ysgol

Mae cinio iach a maethlon ar gael yn yr ysgol bob diwrnod. Daw rhai plant a chinio eu hunain i’r ysgol. Mae Ysgol Cenarth yn rhan o Gynllun Ysgol Iach Ceredigion felly rydym yn hyrwyddo bocs bwyd iachus i’r plant sydd ddim yn cynnwys losin na diod ffisi / blas.

 

Trefniadau cyrraedd a gadael yr ysgol

Yn y bore

 

Bydd y bws yn cyrraedd gyda’r plant ac yn mynd ar yr iard yn y bore. Ni chaniateir i neb ddod ar yr iard hyd nes bydd y bws wedi gadael. Bydd drysau’r ysgol yn agor am 8.50 y bore. Rydym yn annog y plant i fod yn annibynnol o oedran ifanc felly bydd y rhieni yn gadael y plant yn iet yr ysgol a bydd y plant yn dod i mewn a rhoi eu cot a’u bagiau ar y peg a mynd ar yr iard neu i’r dosbarthiadau nes bydd y gloch yn canu am 9.00. Mae rhai plant yn aniscr yn ystod y flwyddyn gyntaf yn yr ysgol felly mae croeso i’r rhieni ddanfon eu plant at y drws. Fel arfer erbyn iddynt ddod i’r ys- gol yn llawn amser maent yn ddigon hyderus i ddod i mewn eu hunain.

 

Diwedd y Dydd

 

Ar ddiwedd dydd bydd plant y bws yn mynd ar y bws gyntaf o dan arweiniad oedolyn. Wedi i’r bws fynd bydd rhieni / gwarcheidwaid yn casglu eu plant ar y maes parcio.

 

Cymdeithas Rieni ac Athrawon

 

Mae Cymdeithas Rieni wedi’i sefydlu yn Ysgol Cenarth ac mae croeso i’r holl rieni gyd-weithio i ymgyrraedd at yr un nôd sef codi arian ar gyfer adnoddau ac addysg eu plant, dod i adnabod rhieni eraill ac i drafod pynciau addysgol. Bydd y swyddogion yn cysylltu gyda chwi drwy lythyr i’ch hysbysu pryd fydd y cyfarfodydd. Gobeithiwn fel ysgol weld y rhieni i gyd yn mynychu’r cyfarfodydd  hyn.

POLISI DERBYN 

Er mwyn gwneud cais am le yn yr ysgol rhaid cyflwyno ceisiadau i Gyngor Sir Ceredigion drwy`r ysgol cyn 30ain o Ebrill pob bblwyddyn. Mae`r ffurflenni pwrpasol ar gael arlein gan y Sir – www.ceredigion.gov.uk 

Trosglwyddir y plant 11 oed naill i Ysgol Bro Teifi, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Gyfun Emlyn neu Ysgol Uwchradd Preseli.

RHEOLAU`R YSGOL

 

Bydd yr ysgol yn cychwyn yn brydlon am 9.00. 

Rydym yn dymuno i’r rhieni gysylltu cyn 9 o’r gloch os yw eu plentyn yn absennol. Drwy hyn gallwn geisio sicrhau bod y plant i gyd wedi cyrraedd yr ysgol yn ddiogel. Bydd yr ysgol yn gorffen am 3.30.

Gan ein bod yn perthyn i Gynllun Ysgolion Iach Ceredigion ni chaniateir dod â losin, creision na diod heblaw am ddŵr i’r ysgol.

Mae’r ysgol yn gweithio’n gydwybodol i sicrhau diogelwch y plant tra ar dir yr ysgol neu dan ofal athro oddi allan i’r ysgol.

Mewn achos o ddamwain neu salwch yn ystod oriau’r ysgol, gwneir pob ymdrech i gysylltu a’r rheini neu warchodwyr os bydd angen. Mewn achosion brys lle methir a chysylltu, bydd y Bennaeth neu Athro a Gofal yn gweithredu yn ôl y galw.

Nid yw’r ysgol yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed i eiddo personol y disgyblion. 

Rydym yn disgwyl i bob plentyn ymddwyn yn gwrtais a chymwynasgar tuag at unigolion o fewn yr ysgol. Rydym eisiau cadw enw da’r ysgol er mwyn i aelodau’r cyhoedd a sefydliadau rydym yn ymweld â hwy i barhau i ddiolch a gwerthfawrogi ymddygiad y plant.

Rydym yn disgwyl i bob plentyn barchu eiddo’r ysgol ac eiddo plant eraill.

Os yw plentyn angen unrhyw feddyginiaeth o fewn oriau’r ysgol bydd angen i’r rhiant lenwi ffurflen ganiatâd. Mae’r ffurflen ar gael gan y Bennaeth/Athro a Gofal.

Os yw eich manylion cyswllt yn newid rydym yn gofyn wrthych adael i’r ysgol wybod yn syth.

Bydd rhaid hysbysu’r ysgol os oes unrhyw newid mewn trefniant casglu’r plant o’r Ysgol.

 

 

IECHYD A DIOGELWCH

Mae diogelwch y disgyblion, y staff ac ymwelwyr yn flaenoriaeth genym yn Ysgol Cenarth. Mae’r llywodraethwyr yn sicrhau diogelwch yr adeilad ac eiddo’r ysgol. Mae asesiadau risg wedi eu paratoi i sicrhau fod gweithgareddau’r ysgol mor diogel a phosib.

Bydd asesiadau risg yn cael eu paratoi cyn unrhyw drip tu allan i ffiniau’r ysgol.

 

 

Damweiniau a Meddyginiaethau

Bydd staff yr ysgol yn gofalu am unrhyw blentyn sydd yn mynd yn sâl neu’n cael dam- wain a’i gysuro. Mae gan dri aelod o staff yr ysgol gymhwyster Cymorth Cyntaf fel ein bod yn gallu sicrhau bod yna staff cymwysiedig ar dir yr ysgol bob amser. Mae’r staff wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol. Bydd unrhyw ddamwain yn cael ei ystyried a’i asesu gan y Cymorthydd Cyntaf ac yna bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhiant i gasglu’r plentyn os fydd angen. Mae’n hanfodol bwysig bod yr ysgol yn cael gwybod yn syth os yw eich manylion cyswllt yn newid. Bydd cofnod o bob damwain yn cael ei gadw ac mi fydd staff yr ysgol yn ffonio adref i egluro beth ddigwyddodd. Mewn achosion brys lle na ellir cysylltu gyda’r rhieni bydd y Cymorthydd Cyntaf a’r Athro a Gofal / Pennaeth yn ymateb a gweithredu yn ôl y galw.

 

Ethos ac Ymddygiad

Mae’r ysgol yn mynnu ymddygiad bositif a chadarnhaol gan holl blant yr Ysgol. Os nad yw plentyn yn cyd-ymffurfio a rheolau a disgwyliadau’r ysgol byddwn yn dilyn canllawiau o fewn y Polisi Ymddygiad. 

 

 

Trefn Gwyno

Mae’r Awdurdod Addysg Lleol, yn unol â gofynion Adran 23 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, wedi sefydlu trefn i ystyried cwynion am y modd y mae Cyrff Llywodraethu ar ysgolion a’r Awdurdod Addysg yn gweithredu mewn perthynas â chwricwlwm ysgol a mate- rion eraill cysylltiedig. Mae'r mwyafrif o gwynion yn ganlyniad camddealltwriaeth neu gyfathrebiad gwael. Os ydym yn benderfynol o ddatrys anhawster a fydd yn bodloni’r naill ochr a'r llall, credwn fod angen dealltwriaeth lawn o'r trefniadau ar gyfer gwneud yn ogystal ag agwedd gadarnhaol tuag at wella'r sefyllfa. Dylai rhiant sy'n dymuno cwyno am drefniadaeth neu gynnwys y cwricwlwm ddilyn y drefn ganlynol:

 

  1. Cysylltu â'r pennaeth. Gwneir ymchwiliad i'r achos gan y Pennaeth (neu aelod o’r staff a enwebir gan y Pennaeth) ac fe ymatebir i'r rhiant yn uniongyrchol. (Dylai mân-gwynion gael eu trafod â'r athro/athrawes unigol. Os na fydd rhiant yn fodlon â'r ymateb, yna dylid cysylltu â'r Pennaeth.)

 

  1. Os na fydd rhiant yn fodlon â'r ymateb, dylid ysgrifennu at Gadeirydd y Corff Llywodraethol. Gwneir ymchwiliad gan aelodau Pwyllgor Cwynion y Corff Llywodraethol ac fe ymatebir ganddynt.

 

Cyngor Ysgol

 

Bydd y disgyblion yn ethol aelodau o’r Cyngor Ysgol yn flynyddol. Eu gwaith yw sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed a’i weithredu arno.

Yn Ysgol Cenarth mae’r disgyblion yn cael cyfle i:

    • Gynnig syniadau ar sut i wella eu hamgylchfyd dysgu.
    • Roi barn a sylwadau am fywyd yr ysgol.
    • Gyfrannu at wneud yr ysgol yn le hapusach.
    • Sicrhau fod yr ysgol yn sefydliad plentyn canolog.

 

 

GWISG YSGOL

Mae ein gwisg Ysgol yn cael ei gwisgo gan bob disgybl a gellir ei phrynu yn siopau fel Thermatex yn Aberteifi.

Rydym yn annog pob rhiant/gwarcheidwaid i ysgrifennu enw eu plentyn ar bob dilledyn ac eiddo personol. Gellir archebu’r wisg ysgol gan gwmni Brodwaith. www.brodwaith.co.uk 

Gofynnwn yn garedig i’r disgyblion wisgo:

 

Crys Chwys pwys

Crys polo melyn

Sgert / trowsus llwyd neu du 

Esgidiau du

 

Gwisg Addysg Gorfforol

 

Crys T ymarfer corff yn lliw tîm eich plentyn

Siorts/legins/jogyrs tywyll

Treinyrs

 

Lliwiau`r Timoedd yw:

Eifed Coch

Tygwydd Melyn

Hirwaun Glas

 

 

Perthynas Ysgol a’r Cartref

 

Rydym yn Ysgol Cenarth yn credu’n gryf mewn perthynas hapus ac iach rhwng yr ysgol a’r cartref.

Gobeithiwn feddwl y gallai unrhyw riant deimlo y gallai ddod i’r ysgol i fynegi unrhyw bryder ynglyn ag addysg neu hapusrwydd eu plant. Gan fod yr Athro a Gofal / Bennaeth yn dysgu gofynnir i chwi ffonio’r ysgol i wneud apwyntiad a byddwn yn eich croesawy am sgwrs pan mae hi’n ymarferol bosibl. Mae datblygiad addysgol eich plentyn yn dibynnu ar pa mor effeithiol ydy’r cyd-weithrediad rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae hi’n broses sy’n gweithio y ddwy ffordd. 

Disgwyliwn i’r rhieni dreulio amser yn darllen a helpu y plant gyda unrhyw waith cartref neu waith ychwanegol a drefnwyd gan yr ysgol er mwyn datblygu y plentyn ymhellach er lles yr unigolyn.

 

 

 

Gwaith Cartref

Bydd gwaith cartref yn cael ei osod yn wythnosol i blant Blwyddyn 3-6 yr ysgol ac yn achlysurol i blant y Cyfnod Sylfaen. Ceisiwn osod gwaith cartref sydd yn atgyfnerthu gwaith y dosbarth neu sy’n ymwneud â thema’r dosbarth. Mae’n fodd o sicrhau bod plentyn yn meithrin yr hyder i weithio’n annibynnol tu allan i sefyllfa’r dosbarth/ ysgol. Mae’n gyfle i’r rhieni gymryd rhan weithredol yn addysg y plant. Dylai pob gwaith cartref fod yn adlewyrchiad o ymdrech gorau pob plentyn. Nid yw’r athrawon yn fodlon derbyn gwaith anniben sy’n îs na gallu’r plentyn a bydd disgwyl i’r plentyn ail wneud y gwaith.

 

TREFN DIOGELU AC AMDDIFFYN PLANT

 

Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr Ysgol.

Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr Ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.

Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.

Y   Pennaeth a`r Athro â Gofal yw`r Cyd-gysylltwyr Diogelu Plant yr Ysgol.

Y Llywodraethwr gyda chyfrifoldeb am ddiogelu plant yw Mr C. James.

 

POLISI Gwrth Fwlio

Mae hawl sylfaenol gan holl aelodau’r ysgol gael eu parchu gan bawb ac i brofi bywyd hapus yn yr ysgol. Mae unrhyw fath o fwlian yn hollol annerbyniol. Mae’r ysgol yn ymateb yn gadarn ac yn drylwyr i bob achos o fwlian. Gwnaiff yr ysgol pob ymdrech i sicrhau nad yw bwlian yn digwydd.

Mae Cyngor yr Ysgol yn cyfarfod yn gyson gyda’r Pennaeth ac trafod unrhyw faterion sy’n effeithio ar eu hawliau fel unigolion. Dylid cysylltu â’r ysgol ar unwaith pan fo rhieni yn pryderi am achosion o fwlio.

 

Darllen gyda fi!

Mae’r ysgol yn ceisio hybu rhieni i gyd-ddarllen gyda’r plant o’r Meithrin hyd at Blwyddyn 6. Bydd yr ysgol yn hybu`r rhieni i brynu bag ysgol i’r plant ddal eu llyfrau yn drefnus a disgwylir i’r plant ddychwelyd eu llyfrau yn ddyddiol. Rydym yn annog y rhieni i gofnodi yn eu llyfrau cofnod.

 

Trosglwyddo gwybodaeth i Rieni Dosbarthu llythyrau

Byddwn yn dosbarthu llythyrau i’r rhieni drwy law y plentyn hynaf yn y teulu neu`n electroneg drwy e-bost. 

 

Adrodd ar Ddatblygiad eich plentyn

Bydd cyfarfod rhieni yn cael ei gynnal yn yr ysgol yn fuan yn ystod Tymor yr Hydref ac yn ystod Tymor y Gwanwyn. Yma cewch gyfle i drafod cynnydd eich plentyn a chael golwg ar y llyfrau Gwaith. Bydd adroddiad ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno yn ystod Tymor yr Haf ar ddatblygiad a chynnydd eich plentyn yn ystod y flwyddyn.

 

 

POLISI IAITH

Mae Awdurdod Addysg Ceredigion yn gweithredu polisi dwyieithog trwy holl ysgolion a hefyd, yn datblygu polisi dwyieithog ar gyfer sefydliadau Addysg Bellach. Yr amcan yw datblygu gallu disgyblion a myfyrwyr i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn eu galluogi i fod yn aelod cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Dylai holl sefydliadau addysg y Sir adlewyrchu ac atgyfnherthu polisi iaith yn eu gweinyddiad, eu bywyd cymdeithasol a’u trefn fugeiliol yn ogystal ac yn eu darpariaeth academaidd. Ysgol naturiol Gymraeg yw Ysgol Cenarth ac mae’r staff a’r disgyblion yn ymdrechu’n galed i gadw naws ac awyrgylch Gymreig yr ysgol. Ni ddylai’r rhai ohonoch sydd â’ch plant yn rhan o sefyllfa ddwyieithog am y tro cyntaf deimlo o dan fygythiad na theimlo nad ydych chi’n perthyn.

Efallai nad ydych yn siarad Cymraeg, er bod llawer o’r rhieni yn dewis dysgu’r iaith, ond gobeithiwn y byddwch yn parchu’r awyrgylch sy’n bodoli yma, awyrgylch sy’n cyfoethogi cymaint ym mhob ystyr ar brofiadau dysgu’r plant. Parchwn eich hawl chi i ddefnyddio’r iaith a ddewisir gennych, ac i’r diben hwnnw, byddwch yn derbyn gohebiaeth dwyieithog o’r ysgol.

 

Addysg Feithrin

Sicrheir, drwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi / galluogi i gyrraedd y nôd o ddwyieithrwydd llawn maes o law.

 

Babanod

Adeiladir ar y sylfeini a osodwyd i’r Gymraeg drwy’r addysg feithrin, cadarnheir a datblygir mamiaith y plentyn o ddysgwyr Cymraeg ac ymestyn gafael y plentyn o gartref Cymraeg 

ar y Saesneg.

 

Iau

Cadarnheir a datblygir Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau ei fod / bod yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i Ysgol Uwchradd. Pan ddaw hwyrddyfodiad i mewn i’r ysgol ym Mlwyddyn 3 h.y. plentyn nad yw’n siarad Cymraeg o gwbl, yna cynigir cwrs brys o dymor iddynt yn y Ganolfan Hwyrddyfodiad yn Aberteifi. Yno bydd y plentyn yn rhan o grwp dysgu bach a bydd yn cael ei ddysgu gan arbenigwyr mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yn ystod y tymor byddant yn dilyn y cwricwlwm ysgol arferol yn ogystal â chael dysgu Cymraeg. Cludir y plant i’r canolfannau yn rhad ac am ddim.

 

Siarter Iaith 

Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn ysgolion Ceredigion mae llawer o waith wedi digwydd yn ein hysgol yn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Nod y Siarter Iaith yn syml ydy arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfraniad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni. Mae rhaglen weithredu wedi ei llunio sydd rhaid i bob ysgol ei phasio. 

 

 

POLISI TÂL

Yn gyffredinol, ni chodir tâl am weithgareddau addysgol ond polisi’r ysgol yw codi tâl am weithgareddau sy’n digwydd y tu allan i oriau’r ysgol neu nad ydynt yn rhan o’r cwricwlwm, megis gwersi offerynnol. Gofynnir am gyfraniad gwirfoddol tuag at gostau fel teithiau ad- dysgol, costau bws i fynd i nofio a thripiau lleol. Gofynnir i rieni dalu am ymweliadau preswyl. Ni chaiff unrhyw blentyn ei atal o unrhyw weithgaredd a gynhelir 

yn ystod oriau’r ysgol, ar sail amharodrwydd neu anhawster i gyfrannu yn wirfoddol.

 

Polisi Addysg Rhyw

Gwneir hyn fel rhan o’r gwersi Gwyddoniaeth neu ABCh sy’n ymwneud a llawer o faterion yn ymwneud a datblygiad yr unigolyn. Mae gennych hawl i dynnu eich plentyn allan o wersi addysg rhyw h.y. yr elfennau nad ydynt yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Eich cyfrifoldeb chi yw gadael i’r pennaeth wybod hynny.

 

Crefydd / Addoli ar y Cyd

Nid yw’r ysgol hon yn dal cysylltiad uniongyrchol a ffurfiol ag unrhwy enwad crefyddol. Mae’r Addysg Grefyddol a gyflwynir yn seiliedig ar faes llafur cydnabyddedig yr Awdurdod. Gellir archwilio copi o’r maes llafur hwn yn yr ysgol. Gellir gwneud trefniadau ar gyfer plant nad yw eu rhieni am iddynt fynychu’r gwasnaethau crefyddol neu 

astudiaeth cyffelyb.  Mae cyd-addoliad yn digwydd yn ddyddiol yn yr ysgol. Bydd y gwasanaethau hyn yn Gristnogol yn bennaf, ond rhoddir sylw i gredoau eraill o bryd i’w gilydd. Fel rheol, bydd y cydaddoliad yn digwydd yn yr ysgol, ond ar achlysuron arbennig cynhelir ambell i wasanaeth mewn capel neu Eglwys. Mae gan rieni’r hawl i eithrio eu plant o addoli ar y cyd.

 

Polisi Cyfle Cyfartal

Nod Polisi’r ysgol yw i roi cyfle cyfartal i bob plentyn yn ystod eu gyrfa ysgol beth bynnag yw ei ryw, oed, iaith tras a’i allu. Mae’r polisi yn cadarnhau fod yr ysgol yn meithrin agweddau cymdeithasol cadarnhaol, yn sicrhau profiadau eang ac yn annog cyd-weithio hapus ac adeiladol.

 

Polisi Hygyrchedd

Amcan yr ysgol yw sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn, ac er nad yw’r ysgol yn un ddynodedig ar gyfer disgyblion anabl, fe fyddem yn gwneud pob ymdrech i’w haddasu yn ôl yr angen er mwyn hwyluso mynediad i bob disgybl yn ôl ei anghenion unigol.

 

Cydraddoldeb Hiliol

Mae’r ysgol yn chware ei rhan mewn dileu hiliaeth a rhoi gwerth a bri ar amrywiaeth

 

Cwricwlwm i Gymru

Cylfwynir cwricwlwm cytbwys ac eang sy’n ymwneud â datblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol, cymdeithasol, corfforol ac emosiynol y plentyn. Gwneir hyn yn bennaf drwy’r dull thematig. Gellir gweld y dogfennau yn yr ysgol.

 

 Y Pedwar Diben

Y pedwar diben yw`r man cychwyn a`r dyhead ar gyfer cynllun cwricwlwm ein hysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi pob dysgwr i ddod yn:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau;
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a Gwaith;
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a`r byd;
  • Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

 

Datganiadau yr Hyn sy’n Bwysig:

Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau dysgu dilys, ysgogol i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a’r sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadu yr hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod

Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.

 

Meysydd Dysgu a Phrofiad:

Mae Chwe Maes Dysgu a Phrofiad, lle gellir gweud gweithgareddau dilys i mewn i’r profiadau dysgu mewn ffordd sy’n ysgogi’r plant. Mae’r cwricwlwm wedi’i lunio ar sail y chwe maes hwn i ategu a hyrwyddo datblygiad lles personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deal- lusol pob plentyn. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth disgyblion ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad er mwyn sicrhau bod disgyblion yn dysgu mewn modd addas ac integredig.

Chwe Maes Dysgu a Phrofiad:

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mathemateg a Rhifedd

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Y Dyniaethau

Iechyd a Lles

Y Celfyddydiau Mynegiannol

 

Dysgu, Dilyniant ac Asesu

 

Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu drwy gynllunio cyfleoedd dysgu sy'n defnyddio'r 12 egwyddor addysgegol.

 

Mae ein cwricwlwm, a gefnogir gan ddysgu ac addysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae'n ei olygu i wneud cynnydd mewn maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu sgiliau a'u galluoedd, a'u priodoleddau a'u tueddiadau ac fe'i hys- bysir gan yr egwyddorion cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein dull o asesu, a'i diben yw llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu'n cael ei ymgorffori fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu wrth gychwyn yn yr ysgol.

 

Gwahoddir y rhieni i Nosweithiau Rhieni yn nhymhorau’r Hydref a’r Gwanwyn lle rhoddir cyfle i'r rhieni edrych o amgylch yr ysgol i weld gwaith y plant ac i siarad yn unigol ag athro'r plentyn. Dosberthir adroddiad ysgrifenedig ar gynnydd y disgyblion ar ddiwedd tymor yr Haf.

 

Mae croeso hefyd i rieni ymweld â'r ysgol ar unrhyw amser cyfleus i ymdrin â gwaith eu plentyn neu broblemau a allai godi. Gwahoddir rhieni sydd yn pryderu ynglyn â phroblemau addysgiadol, ymddygiadol neu ddatblygiadau corfforol i gwrdd â'r Pennaeth ar unrhyw amser. Gellir trin problemau fel yr uchod yn llwyddiannus yn yr ysgol.

 

Categoreiddio

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru â’r gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, o Fedi 2022 bydd Ysgol Gynradd Cenarth yn Gategori 3: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg:

 

  • Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol.

 

  • Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwy- ieithog yn ôl yr angen.

 

  • Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

 

  • Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.

 

  • O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

 

DYSGU SYLFAEN

Cwricwlwm ar gyfer plant oedran Meithrin hyd at Blwyddyn 2: 

Mae’r ffocws gyda`r cyfnod yma ar ddarparu’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau drwy ysgogi gweithgareddau chwarae strwythuredig sy’n cael eu gwau i’r profiadau dysgu. Mae chwe maes dysgu i’r Dysgu Sylfaen -

 

Datblygiad Personol a Chymderithasol 

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Datblygiad Mathemategol

Datblygiad Creadigol Datblygiad Corfforol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

 

Rydym yn gosod pwyslais ar ddatblygu’r plant mewn sgiliau a dealltwriaeth, llês, personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol er mwyn datblygu’r plentyn cyfan. Anogir y plant i ddatblygu hunan-barch a hunan-hyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a ffurfio perthynas newydd ag eraill er mwyn annog eu 

datblygiad fel unigolion.

 

  Datblygiad Personol, Cymdeithasol a Lles

Mae’r maes hwn o ddysgu yn canolbwyntio ar y plant yn dysgu amdanynt eu hunain a’u perthynas gyda phlant ac oedolion eraill. Anogir hwy i ddatblygu eu hunan-barch, eu credoau personol a’u gwerthoedd moesol. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cefnogi hunaniaeth ddiwylliannol pob plentyn, i ddathlu gwahanol ddiwylliannau a chynorthwyo plant i adnabod ac ennill ymwybyddiaeth gadarnhaol o’u diwylliant eu hunain ac eraill. 

Cefnogir y disgyblion i ddod yn feddylwyr a dysgwyr hyderus, hyfedr ac annibynnol.

 

Sgiliau iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

.

 Mae’r maes dysgu hwn yn canolbwyntio ar y disgyblion yn cael amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau ieithyddol. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando’r plant, a fydd yn gosod sylfaen gadarn i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Mae’r disgyblion yn cyfeirio at eu bwriadau drwy ofyn cwestiynau, 

mynegi barn, adweithio i sefyllfaoedd a gwneud dewisiadau drwy amrywiaeth o gyfryngau. Anogir hwy i wrando ar erail ac ymateb iddynt. Maent yn cael cyfleoedd i ddewis a defnyddio deunyddiau darllen a rhoddir iddynt ystod eang o gyfleoedd i fwynhau gwneud marciau ac ysgrifennu.

 

 

Datblygiad Mathemategol

Mae’r maes dysgu hwn yn canolbwyntio ar blant yn datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o fathemateg drwy ddatrys problemau. Maent yn defnyddio rhifau yn eu gweithgareddau dyddiol ac yn datblygu ystod o ddulliau hyblyg ar gyfer datblygu mathemateg pen er mwyn datrys problemau o amrywiaeth 

o gyd-destunau, gan symud i ddef- nyddio dulliau yn ddatblygiadol. Maent yn ymchwilio i siâp a mesur, yn trefnu, cyfatebu a chymharu gwrthrychau a chreu patrymau.

 

 

Datblygiad Creadigol

 

Mae’r maes dysgu hwn yn canolbwyntio ar blant yn datblygu eu dychymyg a’u creadigrwydd drwy’r cwricwlwm. Ysgogir eu chwilfrydedd naturiol a’u tueddiad i ddysgu gan brofiadau synhwyrol bob dydd. Mae’r disgyblion yn ymrwymo mewn gweithgareddau creadigol, dychmygus a mynegiannol mewn celf, crefft, cynllunio cerddoriaeth, dawns a symud

 

 

Datblygiad Corfforol

 

Canolbwyntir yn y maes yma ar agweddau ar ddatblygiad corfforol y plant. Bydd brwdfrydedd ac egni plant yn cael eu hannog yn barhaus i ddefnyddio eu cyrff yn effeithiol drwy hybu eu hymwybyddiaeth ofodol, eu cydbwysedd eu rheolaeth a’u sgiliau cydsymud, a datblygu eu sgiliau echddygol a llawdriniol. Anogir y plant i 

fwynhau gweithgareddau corfforol a chysylltir eu synnwyr datblygol a hunaniaeth yn agos â’u hunan-ddelwedd, eu hunan-werth a’u hyder. Cyflwynir i’r disgyblion gysyniad iechyd, hylendid a diogelwch a phwysigrwydd diet, gorffwys, cwsg ac ymarfer.

 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o`r Byd

 

Mae’r maes dysgu hwn yn annog y plant i brofi’r byd cyfarwydd trwy ymholi, gan archwilio mewn modd diogel a systematig yr amgylchedd a geir dan do ac yn yr awyr agored. Cynigir profiadau iddynt sy’n eu helpu i gynyddu eu chwilfrydedd ynghylch y byd sydd o’u cwmpas a’u helpu i ddechrau deall digwyddiadau’r gorffennol, pobl a lleoedd, pethau byw, a’r gwaith y mae pobl yn ei wneud. Byddent yn dysgu dangos gofal, cyfrifoldeb, consyrn a pharch at bob peth byw a’r amgylchedd.

 

 

Iaith

Mae iaith yn ddylanwad unigryw yn natblygiad plentyn ac yn sylfaen pob dysg. Ceisiwn feithrin agwedd gadarnhaol at iaith drwy gynnig i blentyn amrywiol brofiadau a fydd yn symbylu ymateb synhwyrol, bywiog a deallus a fydd yn datblygu gallu ieithyddol plentyn yn ei holl ag- weddau goddefol a gweithredol - a hynny yn y ddwy iaith. Byddwn yn meithrin diddordeb plentyn mewn llenyddiaeth yn ei hamryfal ffurfiau gan sicrhau bod y profiad o ddarllen, gwrando, gwylio ac ymateb bob amser yn bleserus. Drwy wneud hyn, byddwn yn creu yn y plentyn ymwybyddiaeth o werth yr etifeddiaeth Gymreig fel y gall ymdeimlo â chyfoeth ei gefndir (cynhenid neu fabwysiedig) a pharchu gwahanol ddiwylliannau.

 

Gwrando

 

Datblygu gallu plentyn i wrando’n effeithiol mewn sefyllfaoedd torfol, sefyllfaoedd grŵp ac fel unigolyn er mwyn iddo gael pleser neu ddiddanwch, ymateb i gyfarwyddyd ac ymateb yn greadigol.

 

Siarad

 

Datblygu gallu plentyn i siarad yn glir, yn ddealladwy ac yn hyderus mewn iaith briodol i’r sefyllfa dan sylw, gan ymarfer gofal a chywirdeb.

 

Darllen

 

Meithrin y plentyn fel darllenwr o’r cychwyn cyntaf y gall:

      • Gael pleser neu ddiddanwch;
      • Ddyfnhau ei ddealltwriaeth a chasglu gwybodaeth
      • Werthfawrogi llyfrau da.

 

Ysgrifennu

 

Rhoi cyfle i’r plentyn ymateb yn ysgrifenedig i wahanol brofiadau a sefyllfaoedd ac i 

ysgrifennu i wahanol ddibenion fel y gall;

      • Ddefnyddio ysgrifennu fel cyfrwng i ddod i delerau â’i fyd;
      • Ddefnyddio ysgrifennu i ddyfnhau’i ddealltwriaeth;
      • Ddewis a defnyddio ffurf ar ysgrifennu sy’n briodol ar gyfer y pwrpas sydd iddo.

 

 

Mathemateg

 

Mae syniadau a thechnegau mathemategol yn rhan hanfodol o fywyd pob dydd ac yn cyfrannu’n sylweddol at ein dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas. Anelir yn yr ysgol i ddatblygu ag- wedd bositif tuag at fathemateg fel pwnc diddorol i’w fwynhau. Ceisiwn ddatblygu yn y plentyn y gallu i feddwl yn glir ac yn rhesymegol gyda hyder ac 

ystwythder fydd yn arwain at y ddawn i fynegi syniadau’n glir, i drafod y pwnc gyda sicrwydd ac i ddefnyddio iaith fathemategol a’i gymhwyso i sefyllfaoedd yn y cartref, yr ysgol a’r gymdeithas.

 

 

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

 

Mae gwyddoniaeth yn rhan o fywyd a bydd y plentyn yn datblygu;

      • Meddwl dadansoddol a beirniadol drwy ddilyn dulliau rhesymegol a darganfod yn seiliedig ar arsylwi, dyfalu ac arbrofi;
      • Dealltwriaeth o bethau byw a phrosesau sylfaenol bywyd;
      • Dealltwriaeth o’r modd y gellir defnyddio a datblygu adnoddau’r amgylchfyd. Ymdrinnir â materion rhyw mewn ffordd sensitif yn y gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Gwyddoniaeth.

Prif nodwedd Technoleg yw’r ffaith ei fod yn rhoi cyfle i ddisgyblion wireddu a chynrychioli syniadau o’r dychymyg ar ffurf darluniau, cynlluniau, modelau, arddangosfeydd ac efelychiadau cyfrifiadurol. 

 

Addysg Grefyddol a Chyd-Addoli

Mae gwasanaethau boreol yr ysgol yn rhan bwysig o ethos ac ymdeimlad yr ysgol. Cysylltir yr agwedd grefyddol â phrofiadau plant yn eu bywydau beunyddiol, gan bwysleisio’r agwedd o feddwl am eraill a gofalu amdanynt. Cyflwynir gwybodaeth am grefyddau’r byd ond pwysleisir y grefydd Gristnogol. Trefnir casgliadau tuag at achosion dyngarol lleol a chenedlaethol. Rhoddir hawl i rieni i eithrio’u plant o wersi Addysg Grefyddol a Chydaddoliad os bydd rhesymau priodol.

 

Cerddoriaeth

 

Rhoddir cyfle i bob plentyn gael gwersi Cerddoriaeth sy`n cynnwys canu, cyfansoddi a Gwaith offerynnol. Rhoddir pwyslais yn y rhaglenni hyn ar ddysgu caneuon/emynau hen a newydd i’r plant. Rhoddir cyfle i’r plant wrando ac ymateb i amrywiaeth o wahanol fathau o gerddoriaeth, i ddod yn ymwybodol o batrwm a rhythm, i symud a dawnsio, ac i greu eu cerddoriaeth ei hunain i wahanol ddibenion. Daw athrawon teithiol i’r Ysgol. 

Cynhelir Cyngherddau Diolchgarwch, Gwyl Ddewi a Nadolig lle caiff pob plentyn y cyfle i ymddangos ar y llwyfan.  Mi fydd yr ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol hefyd.

 

 

Addysg Gorfforol

Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd sy’n symbyliad ac yn ddiogel i ddisgyblion lle gallant weithio tuag at aeddfedrwydd cyffredinol wrth ddatblygu sgiliau corfforol. Darperir gweithgareddau sy’n rhoi mwynhad i’r disgyblion wrth ddiwallu eu hanghenion creadigol. Bydd yr ysgol yn cymeradwyo ac yn hybu diddordeb y plant 

mewn chwaraeon o bob math fel rhan o'u datblygiad cymdeithasol a chorfforol. Mae'r cynlluniau yn cynnwys agweddau o chwaraeon goresgyn - gemau tîm, gymnasteg, dawns a nofio. Trefnir cwrs o wersi nofio ym mhwll nofio Castell Newydd Emlyn i’r holl ysgol yn ystod y flwyddyn. 

Teimlir fod cyfnodau fel hyn yn ddull mwy llwyddiannus o gael y plant i nofio. Mae gennym iard a chae helaeth ar gyfer rhai gweithgareddau amser chwarae hefyd

 

Technoleg Gwybodaeth

Mae’r Datblygiadau diweddaraf ym myd addysg wedi rhoi statws uchel i Dechnoleg Gwybodaeth, ynghyd â disgrifiad clir o natur y pwnc. Nodweddir gallu Technoleg Gwybodaeth gan allu i ddefnyddio offer a ffynonellau gwybodaeth TGCh yn effeithiol i ddadansoddi, prosesu a chyflwyno gwybodaeth. Yn Ysgol Cenarth rhoddir pwyslais ar ddatblygu TGCh drwy bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a gwelir y cyfrifiadur fel ‘arf trawsgwricwlaidd’. Mae’r ysgol yn diweddaru adnoddau TGCh yn gyson ac mae cyflenwad sylweddol o gyfrifiaduron ac i-pads yn yr ysgol erbyn hyn.

 

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mynegiant yw celfyddyd lle defnyddiar plentyn ei synhwyrau i sylwi, i ddychmygu, i ryfeddu ac i greu. Credwn yn gryf fod gan y celfyddydau swyddogaeth bwysig iawn yn natbylgiad y plentyn a byddwn yn ei ysgogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol, drama, symud a dyl- unio, crefft a thechnoleg. Yn yr ysgol rhoddir cyfle i 

bob plentyn i roi ei ddychymyg, ei wreiddi- oldeb a’i chwilfrydedd ar waith.

 

 

 

Y Dyniaethau

Fel rhan o’r gwaith themau y cyflwynir yn y dyniaethau a’n hamcanion yma yw datblygu plant sy’n mynd i dyfu i fod yn aelodau cyflawno’u cymunedau ac yn oedolion sy’n mynd i gyfrannu’n gadarnhaol tuag at ddyfodol eu cymuned ac, ar yr un pryd i feithrin parch tuag at yr amry- wiaeth o werthoedd a chymdeithasau gwahanol 

sydd i’w cael yn y byd.

 

Drwy astudiaethau daearyddol ceisir cyflwyno fframwaith o wybodaeth am leoliad a lleoedd ac am nodweddion pwysig cyfundrefnau ffisegol y Ddaear ac effaith dyn ar ein amgylchfyd. Rhoi ymdeimlad o’r gorffennol a ffordd o fyw yw ein hamcan wrth gyflwyno hanes i’n plant. Ceisir datblygu ynddynt ymdeimlad o amser, dilyniant, newid a chronoleg i’w cael i sylweddoli sut mae’r gorffennol wedi ffurfio’r gymdeithas a’r byd y maent yn rhan ohono a hefyd i gael per- spectif o’r presennol – ei werthoedd, ei arferion a’i gysylltiadau.

 

 

Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang

Bydd y plant yn datblygu’r sgiliau, gwybodaeth, agweddau a’r gwerthoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn unigol ac ar y cyd ar lefel lleol a byd-eang a fydd yn gwella ansawdd bywyd yn y presennol heb niweidio’r blaned ar gyfer y dyfodol.

 

 

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol

Prif nod y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yw sicrhau fod gwaith rhifedd a llythrennedd addas i oedran a gallu y plentyn yn cael ei blethu i bob pwnc/ maes a dysgir yn yr ysgol. Yn Ysgol Cenarth ‘rydym yn cynllunio i sicrhau bod cyfle i blant ymarfer a datblygu’r sgiliau hyn ar draws yr holl gwricwlwm a thrwy’r ysgol. Rydym yn 

dysgu’r sgiliau hanfodol yn y gwersi iaith a mathemateg ac yna mae’r plant yn cael ymarfer y sgiliau mewn pynciau eraill.

 

Y Fframwaith Sgiliau

Yn ogystal â llythrennedd a rhifedd mae Fffrawmaith Sgiliau Cymru yn cynnig arweiniad i ddatblygu sgiliau eraill ar draws y cwricwlwm. Mae Ysgol Cenarth yn manteisio ar bob cyfle i feithrin y sgiliau yma

Datblygu Meddwl

Bydd y plant yn dablygu eu meddwl ar draws y cwricwlwm trwy’r prosesau cynllunio, datblygu a myfyrio.

Datblygu Technoleg Gwybodaeth

Bydd y disgyblion yn datblgyu eu sgiliau TGCh ar draws y cwricwlwm trwy ddarganfod, datblygu, creu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau a thrwy ddefnyddio ystod eang o offer a meddalwedd.

 

 

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Nod y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo mewn byd cynyddol ddigidol. Yn Ysgol Cenarth rydym yn cynllunio i sicrhau fod y disgy- blion yn cael cyfleoedd niferus i ddatblygu eu sgiliau TGCh yn drawsgwricwlaidd ar draws yr ysgol.

Mae 4 llinyn yn perthyn i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol:

Dinasyddiaeth: Hunaniaeth, delwedd ac enw da, Iechyd a lles, Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth, Ymddygiad ar-lein a seiberfwlio.

Rhyngweithio a chydweithio: Cyfathrebu, Cydweithio, Storio a rhannu. 

Cynhyrchu: Cynllunio, cyrchu a chwilio, Creu, Gwerthuso a gwella.

Data a meddwl cyfrifiadurol: Datrys problemau a modelu, Llythrennedd gwybodaeth a data.

 

 

Y Cwricwlwm Cudd

Ar wahân i arbenigedd unigol y staff addysgu, dyma’r peth sy’n bennaf gyfrifol am roi i bob ys- gol ei chymeriad ungiol ac unigryw ei hun. Dyma’r rhan o’r cwricwlwm na ellir ei osod o dan benawdau - yr athroniaeth y tu cefn i’r dysgu ac ysgogiadau’r staff, ynglyn â’r ffordd y mae polisiau’r ysgol yn ystyried natur y gymdeithas a wasanaethir 

ganddi - dyna sy’n rhoi i ysgol ei chymeriad ei hun.

 

Yn Ysgol Cenarth rydym yn ymdrechu i gynnig amrywiaeth eang o brofiadau er mwyn ysgogi anghenion gwahanol bob plentyn. Rydym yn sylweddoli fod disgyblion i gyd yn wahanol i’w gilydd a bod ganddynt yr hawl i lwyddo mewn gwhanaol ffyrdd. Nid pawb sy’n llwyddo’n academaidd ac felly rydym yn gweld pwysigrwydd mewn rhoi amrywiaeth o brofiadau er mwyn dangos a datblygu eu doniau tu allan i furiau’r dosbarth. Rydym yn arwain y plant i allu datrys problemau’n greadigol a defnyddio’u sgiliau wrth ddatblygu’n ddinasyddion y dyfodol.

 

 

ASESU

 

Mae asesu yn broses barhaus sy’n digwydd o ddydd i ddydd yn yr ysgol. Bydd yr athrawon yn asesu plant yn anffurfiol drwy’r amser - gan gofnodi asesiad ffurfiol bob ty mor. Ar ddiwedd blwyddyn ysgol bydd yr athrawon yn crynhoi’r wybodaeth a rhoi asesiad diwedd blwyddyn i bob plentyn. Bydd plant Meithrin a Derbyn yn cael eu hasesu yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysgol i roi asesiad gwaelodin o allu’r plentyn a'i anghenion. Ar ddiwedd Cyfnod Sylfaen (Bl 2) a Chyfnod Allweddol 2 (Bl 6) cynhelir asesiad statudol gan yr athro. Bydd canlyniadau rhain ynghyd ag adroddiad llawn o lefel cyrhaeddiad y disgyblion yn y gwahanol bynciau yn cael eu paratoi ar gyfer y rhieni perthnasol erbyn diwedd y flwyddyn addysgol. Trosglwyddir y canlyniadau a’r asesiadau parhaus gan athro / athrawes Bl 6 i’r Ysgol Uwchradd fel bod y broses asesu’n gallu parhau’n rhwydd.

 

SUT Y GALLAF HELPU I HYBU ADDYSG FY MHLENTYN?

 

Gosodir rhai canllawiau yma ynglyn â'r math o bethau yn fras y gall rhiant ddysgu i blant i'w galluogi i roi cymorth ychwanegol i'w plentyn yn yr ysgol.

 

 

Meithrin

*Dysgu lliwiau *Gafael mewn pensel yn gywir *Cyfri i 10

*Gwneud lluniau *Lliwio yn daclus *Sgwrsio am ddigwyddiadau'r dydd

*Adnabod rhai llythrennau a rhifau *Darllen iddynt yn rheolaidd

Dosbarth Derbyn

*Adnabod llythrennau a rhifau *Ysgrifennu llythrennau a rhifau *Cyfrif at 20

*Darllen geiriau  syml a  llyfrau  *Ysgrifennu geiriau a brawdegau syml

*Cyfri fesul 10

Blwyddyn 1 a 2

*Gwybod tablau 2,5 a 10 *Sgwrsio yn y Gymraeg a'r Saesneg

*Adio a thynnu yn eu pen at 20 *Ysgrifennu brawddegau

*Dweud yr amser (o leiaf ar yr awr, hanner awr wedi a chwarter wedi)

*Cyfri hyd at 100 a mwy

Blwyddyn 3 a 4

*Gwybod tablau 2,3,4,5, 6 a 10 o leiaf

*Dweud yr amser ar gloc analog, defnyddio arian.

*Ysgrifennu Cymraeg a Saesneg - llythyrau, storiau

*Trafod a sgwrsio gan fynegi barn yn synhwyrol yn y ddwy iaith.

Blwyddyn 5 a 6

*Gwybod tablau i gyd at 10 

*Ysgrifennu Cymraeg a Saesneg - storiau, llythryau, ayyb heb fawr o gamgymeriadau sillafu - storiau - tua ochr A4 mewn 45 munud-awr

*Trafod a sgwrsio yn hyderus yn y ddwy iaith gan ddefnyddio iaith gywir geirfa dda a mynegi barn a safbwynt yn glir.

 

 

Darpariaeth ar gyfer Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

 

Mae’r polisi hwn yn seiliedig ar y deddfwriaeth a’r dogfennau canlynol;

        • Deddf addysg 1993
        • Rhestr Argymhellion ar Adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’u Hasesu
        • Ffeil Anghenion Dysgu Ychwanegol Deddf Addysg 1893
        • Polisi Iaith yr Awdurdod Addysg
        • Rheoliadau Addysg Anghenion Arbennig (Gwybodaeth) 1994
        • Côd Ymarfer Anghenion Arbennig Cymru
        • Asesu a Darparu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Egwyddorion

 

Yr ydym fel ysgol yn anelu at:

  • Sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i blant ag anghenion addysgol ychwanegol.
  • Cydweithio’n effeithiol ag asiantaethau statudol eraill perthnasol i’r maes megis yr Awdurdod Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Sefydlu partneriaeth â rhieni a Chyrff Gwirfoddol sy’n eu cynrychioli.
  • Sicrhau ymateb Awdurdod Addysg cyfan ac ysgol gyfan i Anghenion Addysgol Arbennig a pheidio â chyfyngu cyfrifoldeb i staff penodol.

 

 

Amcanion

Ein nod yn Ysgol Cenarth yw gwneud ein gorau i sicrhau tegwch addysgol a chymdeithasol i bob un plentyn ar draws yr ystod gallu. Gobeithiwn hefyd fedru gofalu fod pob unigolyn yn cael y cyfle gorau i weithio hyd at eithaf ei allu a hynny trwy waith ysgrifenedig neu ymarferol mewn cyd-destun dwyieithog. 

Gobeithio hefyd ein bod yn medru cael pob plentyn i sylweddoli’n llawn ei lawn botensial a’i ddawn unigryw ei hun.

Anelir ar:

  • Sicrhau bod cyfundrefn yn bodoli yn yr ysgol i adnabod yn gynnar y plentyn sydd ganddo anawsterau a all fod yn llesteirio ei addysg.
  • Casglu gwybodaeth ynghyd gan athrawon ac eraill i sicrhau y ceir dealltwriaeth orau am natur anawsterau’r plentyn.
  • Sicrhau y caiff y ddarpariaeth angenrheidiol ei gwneud ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig.
  • Sicrhau cydweithrediad a chefnogaeth y rheini ac eraill mewn perthynas ag adnabod a darparu gwasanaeth.

 

Polisi Anghenion Addysgol Arbennig Ysgol Cenarth

Gellir gofyn am gopi o’r Polisi yn yr ysgol.

 

Cefnogi a Hyrwyddo Cyflawniad Plant mewn Gofal

 

Mae gan bob plentyn sydd mewn gofal yr hawl i addysg ac i dderbyn pob cyfle a chymorth i ddatblygu’n addysgol ac yn gymdeithasol. Bydd yr ysgol yn gwneud y canlynol er mwyn cefnogi a hyrwyddo cyflawniad y disgyblion:

  • sicrhau bod aelod o staff wedi'i benodi i ymgymryd â chyfrifoldeb penodol ar gyfer disgyblion yng ngofal yr Awdurdod Lleol;
  • sicrhau ein bod yn monitro absenoldeb disgyblion sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol, a chyflwyno adroddiad i'r Awdurdod Addysg;
  • sicrhau amgylchedd ac ethos cadarnhaol;
  • bod yn ymwybodol o'r sensitifrwydd sydd o gwmpas gwahardd disgybl sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, gan gydnabod yr angen i'r plant hynny dderbyn addysg barhaus;
  • sicrhau bod gan pob disgybl Gynllun Addysg Personol:
  • sicrhau bod unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gan blentyn mewn gofal yn cael eu diwallu.

 

Ysgol Iach

 

Mae Ysgol Gynradd Llechryd yn aelod gweithgar o Gynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae ysgol iach yn ysgol sy’n mynd ati i hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gymryd camau cadarnhaol megis llunio polisïau, gwneud gwaith cynllunio strategol a datblygu staff, mewn perthynas â chwricwlwm, ethos ac amgylchedd ffisegol yr ysgol a’i chysylltiadau â’r gymuned.

 

Mae’r Cynllun yn galluogi’r ysgol i gyfrannu’n bositif tuag at Iechyd a Lles y disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu’r amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.

 

Ysgol Werdd/Eco

Mae’r ysgol wedi ennill y wobr arian. Rydym yn ailgylchu papur, cardfwrdd, plastig a dillad yn yr ysgol ac yn defnyddio’r ardd i blannu llysiau a ffrwythau amrywiol.

 

Yr Urdd

Mae gan yr ysgol gangen yr Urdd a byddwn yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn flynyddol yn canu, llefaru, perfformio mewn canu, llefaru, ysgrifennu ac yn yr Adran Gelf. Byddwn hefyd yn cystadlu yn y cystadleuthau chwaraeon.

 

Teithiau preswyl

Bydd yr ysgol yn trefnu tripiau preswyl i’r plant yn flynyddol o flwyddyn 3 hyd at flwyddyn 6. Byddwn yn cyd-weithio gyda ysgolion eraill cyfagos er mwyn i’r plant ddod i adnabod a chymdeithasu gyda’u cyfoedion o’r run oed yn yr ardal. Byddwn yn codi tâl am yr ymweliadau yma.

 

CYNLLUN TEITHIO I`R YSGOL

Mae`r Ysgol yn annog rhieni i gerdded, beicio neu i rannu ceir wrth ddod a`u plant i`r Ysgol. Erfynnir am gydweithrediad pawb er diogelwch y plant a`r amgylchedd. Mae`r Pwyllgor Eco`r Ysgol yn pwysleisio`r angen i rieni I feddwl am yr amgylchedd wrth deithio i`r Ysgol.

 

Beth allwch chi rieni a gwarcheidwaid ei wneud i gefnogi eich plentyn pan yn cychwyn yn y Dosbarth Meithrin?

 

Ceisiwch wneud yn fawr o bob cyfle i gefnogi eich plentyn er mwyn cyfoethogi ei brofiadau/phrofiadau:

 

  • Mae’n holl bwysig eich bod yn sgwrsio â’ch plentyn, nid yn unig am y 
  • diwrnod ysgol, ond am ddigwyddiadau eraill o bwys hefyd.

 

  • Ni ellir gorbwysleisio yr angen i chwi ddarllen a chwarae pob math 

 

  • o gemau iaith â’ch plentyn, e.e. ‘Mi wela` i gyda fy llygaid bach i…..’.

 

  • Nid oes angen gwneud gwaith ffurfiol ond helpu ymwybyddiaeth plentyn o rif trwy ddysgu rhigymau syml iddo ef/hi a chyfeirio at rif yn yr amgychledd.

 

  • Helpwch eich plentyn i gyflawni tasgau fel gwisgo, clymu carrai esgid, mynd i’r toiled defnyddio cyllell a fforc a thacluso.

 

  • Datblygwch weithgareddau sy’n hybu sgwrs a hunan hyder.

 

  • Helpwch eich plentyn i ddod yn gyfarwydd â siap ei enw/ henw.

 

  • Peidiwch â defnyddio prif lythrennau e.e. helpu nid HELPU.

 

 

Edrychwn ymlaen yn Ysgol Cenarth i gydweithio â chi ac i anelu i roi addysg o’r safon orau i’ch plentyn.

 

 

Diolch yn fawr,

 

Miss M Lewis B.Ed (Hons) M.A. NPQH 

Pennaeth