Neges bwysig ar 26/6/23

Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion, 

Mabolgampau Ysgol Cenarth Haf 2023

Diwrnod mabolgampau wedi ei OHIRIO am ddydd Mawrth 27.6.23 oherwydd y rhagolygon.  Ymddiheuriadau am yr anghyfleusdra. Fe fyddwn yn cynnal Mabolgampau ar ddydd Mercher 19eg o Orffennaf am 1yp.

Cofion / Kind regards

M. Lewis

 

Annwyl rieni/ warcheidwaid, staff a disgyblion, 

 

  • Mabolgampau 1yp ar dir yr ysgol ar ddydd Mawrth 27.6.23. Bydd angen i blant Dosbarth y Gorlan Miss Carruthers Meithrin rhan amser dod erbyn 1yp yn lle dod yn y bore.

 

  • Gwahoddir bl5 a 6 i fynd i Aberteifi i chwarae Tag Rygbi ar 3.7.23 o 1yp i 3yp. Bydd eisiau diod.

 

  • Gwahoddir bl1 a 2 i fynd i Aberteifi i ymuno gyda`r Ŵyl Chwaraeon ar 10.7.23 o 1yp i 3yp.

 

 

  • Trip Dysgu Sylfaen (dosbarthiadau Mrs Howells, Miss Harris) fel a ganlyn: Picnic yn y Parc a Lle Chwarae Moody Calf; 12.7.23; Gadael am 9.30 a dychwelyd erbyn 3 o`r gloch; Cost y Daith - £10. Bydd angen pecyn bwyd a £2 am hufen iâ ar y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth cysyllter gyda'r athro dosbarth.

 

  • Trip dosbarth y Ffynnon a Dosbarth y Berllan (Miss Williams a Miss Waters) – Bowlio Deg a Pharc yng Nghaerfyrddin ar 6.7.23 am £11.00 yr un; bydd eisiau pecyn bwyd a diod; arian poced am luniaeth.

 

  • Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Gorlan – bore yn unig (Miss Carruthers);  y Ffrydiau ( Mrs Howells) y Bont (Miss Harris) ar brynhawn dydd Mercher 5.7.23 o 1yp ymlaen.

 

 

  • Taith Ddysgu`r plant i`r rhieni o Ddosbarthiadau y Ffynnon ac y Berllan (Miss Williams ac Miss Waters) ar brynhawn dydd Gwener 7.7.23 o 1yp ymlaen. 

 

Bydd y plant yn dangos eu gwaith i`r rhieni/gwarcheidwaid.

 

  • Gwahoddir i flwyddyn 5 i ymweld am ddiwrnod hwyl yn Ysgol Aberteifi ar ddydd Mercher 12fed o Orffennaf ac fe fydd bws i fynd a`r disgyblion. 

 

  • Gŵyl- 24.6.23

 

Bydd yr wŷl ei hun yn digwydd ar Dydd Sadwrn 24ain Mehefin ym Mharc Brenin Sior V Castell Newydd Emlyn, lle bydd cystadleuaeth gwisg ffansi, mabolgampau, gemau, 

peintio wynebau a mwy.  Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod i’r teulu cyfan ac mi fydd croeso cynnes i bawb.

Bydd cerddoriaeth byw gyda’r nos yn Y Sgwâr Castell Newydd Emlyn gan Llew Davies am 8yh.

 image001.pngimage002.png

 

  • Cystadleuaeth Principality Aberteifi: fe'ch gwahoddir i ddylunio eich pot planhigion eich hun; casglwch eich pot planhigion plaen o Swyddfa Aberteifi (gyferbyn â K27) a'i greu gan ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn ffenestr Swyddfa Aberteifi a'r dyddiad cau yw 22.9.23. Mae dau grŵp – 4 – 7 oed ac 8 – 11 oed.

 

 

 

                     Bwydlen am wythnos 26.6.23

Dydd Llun

Cyri cyw iar, reis, bara Naan, Llysiau

Fflapjac afal, sudd

Dydd Mawrth

Grilen cyw iar, waffls, ffa pob, llysiau

Cacen Haf siocled

Dydd Mercher

Cinio selsig

Cwci ceirch, ffrwyth a llaeth

Dydd Iau

Pastishio, bara garlleg, llysiau

Pancos ffrwythog

Dydd Gwener

Bysedd pysgod, sglodion, llysiau

Rolyn hufen ia sbwng

NOFIO TYMOR YMA: Dyddiadau a dosbarthiadau am nofio:

Dyddiad / Date:

Dosbarth Meithrin llawn amser ac y Derbyn

 

Dyddiad / Date:

Dosbarth y Ffynnon Miss Williams Bl 3 a 4 

 

                                                                                                  

29.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

6.7.23

Meithrin Llawn amser / Y Gorlan                                                                                             

   
   

13.6.23

Y Ffynnon Bl 3 a 4

 

Cofion cynnes,

 

M. Lewis

Pennaeth